Profiad Blasu Jin

£25.00

Ymgollwch mewn profiad blasu jin yn nistyllfa In The Welsh Wind a darganfod llond byd o jin crefft.

Samplwch ddetholiad o wirodydd cain, o rai o ddistyllfeydd lleiaf Cymru, wedi'u dewis yn ofalus gennym i ehangu eich profiad jin.

Mwynhewch ddiod croeso, darganfyddwch dri jin Cymreig a thrafodwch eu nodweddion mewn man blasu, cerddoriaeth a bar rhyngweithiol sy'n cadw llawer mwy o gynigion gwirod crefft.

Mae pob un profiad blasu jin yn wahanol ac yn unigryw, oherwydd amrywiaeth ein detholiad arbennig o jin gwadd a jin ein distyllfa ni. A chynifer o wirodydd gwych a nodedig i roi cynnig arnynt, onid yw'n bryd i chi ddarganfod mwy?


 

Cymraeg