Profiad Cymysgu Jin yn Bar 45
Ymunwch â ni yn 45 Stryd y Santes Fair i Gymysgu Jin ar 10 Chwefror 2022!
Wedi’i chreu’n wreiddiol ar gyfer Penwythnos Agored ein Distyllfa, rydym yn edrych ymlaen at Ddydd Gŵyl Sant Ffolant ac yn gwahodd parau i ymuno â ni ymlaen llaw am noson o gymysgu jin yn ein bar yn 45 Stryd y Santes Fair, Aberteifi, i greu potel unigryw o jin.
Byddwch yn creu eich potel o jin o gronfa o ddistylladau botanegol a baratowyd gan ein distyllwyr. Gadewch iddo orffwys am ychydig ddiwrnodau a bydd yn barod i’w rannu ar Ddydd Gŵyl Sant Ffolant!
Cewch eich cyflwyno i’r broses o Gymysgu Jin a bydd un o Arbenigwyr ein Labordy Jin yn egluro cysyniad ‘cymysgu’ i chi – sef cyfuno hylifau wedi’u distyllu ymlaen llaw i greu potel 70cl unigryw o jin i’w gadw.
Mae’r profiad yn £50 i ddau ac mae’n cynnwys:
- diod i’ch croesawu (G&T o’ch dewis neu goctel jin Madame 75)
- sesiwn cymysgu jin gyda thiwtor
- potel 70cl o jin unigryw i’w gadw
Bydd y bar ar agor ar ôl y profiad cymysgu jin ac mae croeso ichi aros a mwynhau rhagor o ddiodydd gyda ni os mynnwch chi!
Gwneud Jin yng Nghymru
Yn ystod eich profiad byddwch yn dysgu am hanes jin ac, o dan arweiniad ein distyllwr, yn dewis eich cynhwysion botanegol i greu eich potel eich hun o jin i’w chadw.
Yn rhan o'r profiad, gallwch fwynhau jin a thonig di-dâl yn ein lolfa, a bydd y bar ar agor os hoffech fwynhau diodydd pellach.
Cysylltwch â ni pan fyddwch yn barod i drefnu eich profiad gwneud jin a defnyddio eich tocyn rhodd.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r ddistyllfa a'ch helpu i ddarganfod eich jin. Iechyd da.