Jin Dewi Sant gan Eccentric Spirits Co

£32.00

Wedi’i ysbrydoli gan ddistrych y don, dyma drwyth arfordirol o berlysiau bras aromatig, ffenigl a sitrws eiddgar.

Jin 40% a ysbrydolwyd gan yr arfordir.

40% vol
Potel 70cl

Manylebau 28 DU

Rhowch gynnig ar Dewi Sant naill ai gyda basil a leim neu gucumer a lemon.

Os yw basil a leim yn apelio atoch, gwasgwch ddarn o leim i wydraid gydag iâ. Ychwanegwch jin Dewi Sant, yna ddŵr tonig a sbrigyn o fasil ar ei ben. Os curwch y basil rhwng eich dwylo yn gyntaf, byddwch yn rhyddhau’r persawr hyfryd. Mae’r Basil yn gweithio’n berffaith gyda’r trwyth arfordirol o berlysiau bras aromatig, a’r leim ffres yn gweddu i’r dim i flas sitrws hoenus y jin.

Ar gyfer yr opsiwn cucumer a lemon, defnyddiwch lemon yn lle’r leim. Ar ôl ichi ychwanegu’ch jin ac ychydig o ddŵr tonig cucumer at y gwydraid, addurnwch â rhuban o gucumer. Mae cucumer yn cynnig blas sawrus cynnil, sy’n ychwanegu at flasau llysieuol y jin, ac yn gadael i’r jin fod yr arwr. Mae lemon yn ychwanegu ffresni gan gyfuno â blas hoenus y jin.

Mwynhewch yn gyfrifol!

Cymraeg