Tocyn Profiad Gwneud Jin
Ymunwch â ni am brofiad gwneud jin yn nistyllfa In The Welsh Wind ac ymgollwch mewn jin pwrpasol. Cewch chi fod yn ddistyllwr a darganfod eich jin.
Mae profiad gwneud jin distyllfa In The Welsh Wind yn para tua dwy awr. Yn ystod y cyfnod hwn cewch fynd i’r ddistyllfa, defnyddio un o'n distyllbeiriau prawf, a chael cyfle i greu eich jin eich hun.
Gwneud Jin yng Nghymru
Yn ystod eich profiad byddwch yn dysgu am hanes jin ac, o dan arweiniad ein distyllwr, yn dewis eich cynhwysion botanegol i greu eich potel eich hun o jin i’w chadw.
Yn rhan o'r profiad, gallwch fwynhau jin a thonig di-dâl yn ein lolfa, a bydd y bar ar agor os hoffech fwynhau diodydd pellach.
Cysylltwch â ni pan fyddwch yn barod i drefnu eich profiad gwneud jin a defnyddio eich tocyn rhodd.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r ddistyllfa a'ch helpu i ddarganfod eich jin. Iechyd da.