Croeso i In the Welsh Wind!
Yma ar arfordir gorllewin gwyllt Cymru, rydym yn distyllu jin arobryn a gwirodydd eraill, ac wrthi’n arloesi wisgi cwbl Gymreig.
Ystyriwn ein hunain yn ‘rebel’ o gwmni – ers ein dyddiau cynnar mewn hen sied wartheg, rydym yn parchu traddodiad ond heb deimlo erioed fod yr hyn a aeth o’n blaenau neu’r ffordd y ‘dylai’ distyllu fod yn cyfyngu arnom o gwbl. Ymhyfrydwn yn y dull arloesol a ddewiswn wrth inni droedio ein llwybr ein hunain.
Distyllwn fesul swp bychan er mwyn inni gyflenwi’r hylifau gorau posibl.
Mae croeso ichi ymweld â ni. Cewch ddewis ymgolli mewn cynhwysion botanegol yn ystod Profiad Gwneud Jin yn ein Labordy Jin, neu ymlacio yn ein lolfa am Brofiad Blasu Jin.
Mae ein siop boteli ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9 a 5, a byddwn wastad yn falch o roi gwybod ichi am y gwahanol jin a gwirodydd Cymreig sydd gennym ar werth.